Y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau/
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-04-17 Papur 6/ Paper 6
Annwyl Robert,
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru
Yn dilyn fy llythyr dyddiedig 12 Ionawr ynglŷn â’r ymchwiliad uchod, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau bellach wedi cael tystiolaeth ysgrifenedig gan Grŵp Clearsprings am lety i geiswyr lloches a thystiolaeth lafar gan Lywodraeth Cymru ar ystod o faterion. Byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi eglurhad o safbwynt y Swyddfa Gartref ar ddau fater.
Yn gyntaf, mae Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Clearsprings wedi nodi (mewn llythyr dyddiedig 18 Ionawr, sydd ar gael yn http://senedd.assembly.wales/documents/s58362/Clearsprings%20Ready%20Homes%20Ltd%20to%20Chair%20-%2018%20January%202017.pdf ) bod gan awdurdodau lleol "reolaeth lawn dros y tai sy'n cael eu defnyddio i gartrefu ceiswyr lloches mewn perthynas â rheoliadau trwyddedu". Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a yw'r Swyddfa Gartref yn darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Yn ail, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor (ar 19 Ionawr, mae manylion y cyfarfod ar gael yn: http://senedd.cynulliad.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=447&MId=3843&Ver=4 ) fod 27 o blant sy'n ceisio lloches heb gwmni yn cael eu lletya yng Nghymru. Roedd y pwyllgor yn synnu bod y nifer mor isel. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi manylion am y fethodoleg ar gyfer y penderfyniadau y mae’r Swyddfa Gartref yn eu gwneud ar ddyrannu plant o'r fath i Gymru, cadarnhau a oes unrhyw rwystrau o'ch safbwynt chi i gynyddu nifer y plant o'r fath sy’n dod i Gymru.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn dydd Iau 2 Chwefror.
Yn gywir
John Griffiths AC